WEA YMCA CC Cymru is a democratic, voluntary body made up of students, individual subscribers and affiliated organizations. It is registered as a charity and operates at local, regional and national levels through regional offices and volunteer-led branches. It has no political or sectarian ties.
WEA Llanelli Branch has achieved remarkable status within Wales as one of the oldest, and largest, branches and has contributed significantly to the quality of life of the town. The formation of the Branch was first proposed in the months leading up to the First World War, when a meeting was held on the 20th June, 1914 at the old Town Hall in Hall Street. In spite of the terrible and traumatic events of that period Llanelli showed a ready commitment to adult learning. By March 1915, lectures and classes were established jointly with the Aberystwyth Joint Committee for University Tutorial Classes. To quote the tutor of that time, Mr W. King BA, the objective was: ‘to broaden the mind and give men and women a new outlook on life.’
A century and more on, through several economic depressions, another world war, the nuclear age and the coming of the digital age, the town has undergone monumental shifts in its prosperity. Its days as an industrial powerhouse have been diminished and we live in a cleaner, greener environment. The Branch, and the town, have survived this mix of fortune. The townspeople continue to actively support the Branch in its democratic approach to life-long learning, offering classes and free monthly lectures in a diverse range of subjects from politics, philosophy, economics, international affairs, history, music, science, art and literature.
Our free public lectures are held monthly at the Lliedi Suite, Selwyn Samuel Centre, Llanelli. Our classes are created in response to local need and take place at various venues around the town and at the Llangennech Community Centre.
The Branch values the support from the Llanelli Town Council and the Llanelli Rural Council for its work.
If you would like to join WEA Llanelli Branch, and support our work through your membership fee, please go to the contact page.
Mae WEA YMCA CC Cymru yn gorff gwirfoddol a democrataidd sy’n cynnwys myfyrwyr, tanysgrifwyr unigol a sefydliadau cyswllt. Mae wedi ei chofrestru fel elusen ac mae’n gweithredu yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol drwy gyfrwng swyddfeydd rhanbarthol a changhennau sy’n cael eu harwain gan wirfoddolwyr. Nid oes gan y gymdeithas unrhyw dueddiadau gwleidyddol na sectyddol.
Mae cangen Llanelli o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr wedi cyflawni statws anhygoel o fewn Cymru fel un o’r canghennau mwyaf a hynaf ac mae wedi cyfrannu’n sylweddol at ansawdd bywyd y dref. Awgrymwyd ffurfio cangen yn ystod y misoedd cyn y Rhyfel Byd cyntaf. Cynhaliwyd cyfarfod ar yr 20ed o Fehefin 1914, yn hen neuadd y dref yn Stryd y Neuadd. Er gwaethaf digwyddiadau trawmatig ac ofnadwy y cyfnod hwnnw, roedd Llanelli yn ymrwymedig i addysg i oedolion. Erbyn Mawrth 1915, roedd darlithoedd a dosbarthiadau wedi eu sefydlu ar y cyd gyda phwyllgor cyfunol Aberystwyth ar gyfer Dosbarthiadau tiwtorial y Brifysgol. I ddyfynnu Mr W King BA y tiwtor ar y pryd, y nod oedd ‘lledaenumeddyliau a rhoi golwg newydd ar fywyd i ddynion a menywod’.
Ganrif a mwy yn ddiweddarach, wedi sawl dirwasgiad economaidd, rhyfel byd arall, yr oes niwclear a dyfodiad yr oes ddigidol, mae’r dref wedi gweld newidiadau enfawr yn ei llwyddiant a’i chyfoeth. Mae ei dyddiau fel grym diwydiannol wedi lleihau ac rydym yn byw mewn amgylchedd glanach a mwy gwyrdd. Mae’r gangen a’r dref wedi goroesi hyn oll. Mae pobl y dref yn parhau i gefnogi’r gangen a’i hymagwedd ddemocrataidd tuag at addysg gydol oes yn frwdfrydig. Mae’n cynnig dosbarthiadau a darlithoedd misol yn rhad ac am ddim ar ystod eang o bynciau amrywiol fel gwleidyddiaeth, athroniaeth, economeg, materion rhyngwladol, hanes, cerddoriaeth, gwyddoniaeth, celf a llenyddiaeth.
Cynhelir ein darlithoedd misol, sy’n rhad ac am ddim i bob aelod o’r cyhoedd, yn SwîtLliedi, Canolfan Selwyn Samuel, Llanelli. Trefnir ein dosbarthiadau yn unol â gofynion lleol ac maent yn cael eu cynnal mewn amrywiaeth o leoliadau o gwmpas y dref ac yng Nghanolfan Gymunedol Llangennech.
Mae’r gangen yn gwerthfawrogi cefnogaeth Cyngor Tref Llanelli a Chyngor Gwledig Llanelli i’r gwaith.
Os ydych chi eisiau ymuno â changen Llanelli o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr a chefnogi’n gwaith drwy eich tâl aelodaeth, ewch i’r dudalen gysylltiadau os gwelwch yn dda.
Copyright © 2024 WEALlanelli - All Rights Reserved.